Lansio ein gwasanaeth gofal cwsmeriaid newydd a gwell
Mae ein gwasanaeth un pwynt cyswllt bellach yn fyw.
Heddiw, rydym yn lansio Cyswllt AGC - y tîm gofal gwasanaeth cwsmeriaid y gwnaethom ymrwymo i'w sefydlu yn ein Cynllun Strategol, a gyhoeddwyd yn 2018.
Gwasanaeth cyflymach a mwy effeithlon.
Bydd tîm Cyswllt AGC yn cynnig gwasanaeth brysbennu ar gyfer ymholiadau allanol. Y bwriad yw darparu gwasanaeth cyflymach a mwy effeithlon, gan ddatrys cymaint o ymholiadau â phosibl ar adeg y pwynt cyswllt cyntaf.
Gyda darpariaeth ddwyieithog, bydd y gwasanaeth yn darparu opsiynau symlach ar gyfer codi pryderon, cofrestru gwasanaethau, gwneud ymholiadau DBS a threfnu apwyntiadau. Yn ogystal, bydd y gwasnaeth yn cynnig cymorth TG ac ar-lein, ac yn hwyluso a chyflymu'r broses o gael gafael ar ein hymgynghorwyr.
Cysylltwch â ni
Ffôn: 0300 7900 126
E-bost: AGC@llyw.cymru
Gwefan: www.arolygiaethgofal.cymru
Cyfeiriad post
Arolygiaeth Gofal Cymru
Swyddfa Llywodraeth Cymru
Sarn Mynach
Cyffordd Llandudno
LL31 9RZ