Aelod o'r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol
Pwy ydw i?
Myfanwy Moran ydw i ac rwy'n Uwch-reolwr yn nhîm awdurdodau lleol Arolygiaeth Gofal Cymru.
Beth ydw i'n ei wneud?
Rwy'n uwch-reolwr yn nhîm awdurdodau lleol Arolygiaeth Gofal Cymru.
Ymunais ag Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Ionawr 2020 ar ôl gweithio ers sawl blwyddyn mewn awdurdodau lleol. Rhoddwyd y cyfyngiadau symud cyntaf ar waith yn ystod fy nghyfnod sefydlu.
Fy meysydd diddordeb a/neu brofiad
Rwy'n weithiwr cymdeithasol cofrestredig. Rwy'n ymddiddori'n bennaf ym maes gwasanaethau iechyd meddwl oedolion a gweithiais fel rheolwr iechyd meddwl (a Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy) am sawl blwyddyn.
Rwyf bob amser wedi mwynhau gwaith brys yn arbennig a bûm yn rheoli gwasanaeth brys y tu allan i oriau i blant ac oedolion am sawl blwyddyn.
Beth sy'n bwysig i fi
Fy nheulu – dau blentyn bach.
Fy niddordebau – rhedeg a llesiant cyffredinol gan gynnwys iechyd meddwl
Fy ngwaith – anelu at sicrhau bod pobl yn cael y gofal cymdeithasol gorau yng Nghymru.