13 a 20 Mehefin 2023 - digwyddiadau darparwr rhithwir
Anelir y digwyddiadau hyn at bob darparwr gofal plant a chwarae gan gynnwys gwarchodwyr plant.
Byddwn yn cynnal ein cyfres nesaf o ddigwyddiadau rhith-ddarparwyr trwy Microsoft Teams ym mis Mehefin, lle byddwch yn cael cyfle i siarad â ni a darparwyr eraill.
- 13 Mehefin 2023 – 6:30yp-8yp
- 20 Mehefin 2023 – 11yb-12:30yb
Ein hagenda ar gyfer y digwyddiadau fydd:
- Cyflwyniad/diweddariad gan AGC
- Cyflwyniad y darparwr ar arfer gorau
- Canfyddiadau o'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth diweddaraf (SASS)
- Ymarfer myfyriol
Bydd e-byst gwahoddiad yn cael eu hanfon yn uniongyrchol at ddarparwyr.
Sylwch - Nid ydym yn defnyddio system archebu Eventbrite ar yr achlysur hwn felly nid oes angen archebu lle.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r digwyddiadau hyn, e-bostiwch agc.cyfathrebu@llyw.cymru