Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Datganiad hygyrchedd ar gyfer arolygiaethgofal.cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sy'n cynnal y wefan hon. Rydym am sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon.

Defnyddio'r wefan hon 

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. 

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'n gwefan arolygiaethgofal.cymru.

Rydym am sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau 
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig 
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais 

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet (Dolen allanol) ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 (Dolen allanol) yn sgil yr hyn nad yw'n cydymffurfio â nhw sydd wedi'u rhestru isod.

  • Mae rhai dogfennau atodedig nad ydynt wedi'u hysgrifennu'n glir
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes modd i ddefnyddwyr nesáu hyd at 200% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin

Cynnwys heb fod yn hygyrch

Nid yw'r cynnwys sydd wedi'i restru isod yn hygyrch nac o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd. 

Nid yw'n cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd:

Problemau gyda PDFs a dogfennau eraill

Nid yw llawer o'n PDFs hŷn yn cyrraedd y safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi cael eu marcio er mwyn iddynt fod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG.

Nid yw'r cynnwys o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau hanesyddol yw rhai o'r rhain nad ydym yn berchen arnynt neu nid ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi'u heithrio o'r rheoliadau. 

Rydym yn gweithio trwy bob un o'n PDFs ar hyn o bryd er mwyn eu newid gyda fersiwn HTML hygyrch lle y bo'n bosibl. Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddwn yn cyrraedd y safonau hygyrchedd. 

Os bydd angen i chi gael gafael ar wybodaeth yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat amgen. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 04 Ionawr 2024. Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf mewn Chwefror 2024. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol.

Fe ddefnyddion ni SortSite Desktop i sganio dros 6,296 o'n tudalennau. 

Gwnaethom brofi cymysgedd o dempledi craidd a ddefnyddir yn aml gan gynnwys:

  • Y porth mewngofnodi 
  • Tudalen dechrau gwneud cais 
  • Tudalen cais amdanoch chi 
  • Tudalen datganiad cais
  • Templed darparwr gwasanaeth

Ym mis Hydref 2023, cynhaliodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth archwiliad o sampl cynrychioliadol o’n tudalennau, ac o’r sampl hwnnw cafodd nifer o faterion hygyrchedd cyffredin eu nodi a’u trwsio.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen y wybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch AGC@llyw.cymru
  • ffoniwch 0300 7900 126

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 15 diwrnod gwaith. 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd â'r wefan hon 

Rydym bob amser yn awyddus i wneud y wefan hon yn haws ei defnyddio. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u nodi ar y dudalen hon, neu os byddwch o'r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, e-bostiwch: AGC@llyw.cymru neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126.

Gweithdrefn gorfodi 

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). 

Os nad ydych yn fodlon ar y ffordd y byddwn yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Cydraddoldeb (EASS) (Dolen allanol).