Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cyfryngau cymdeithasol

Canllawiau ar gyfer defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Mae gennym nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ydym yn eu defnyddio i'ch hysbysu a'ch diweddaru am ein gwaith, gan gynnwys LinkedinTwitter, Facebook a YouTube. (Dolenni allanol)

Rydym yn annog trafodaeth a rhyngweithio ar ein sianeli. Fodd bynnag, rydym yn gofyn eich bod yn barchus wrth bostio a'ch bod yn dilyn ein rheolau tŷ.

Rheolau tŷ

  • Wrth bostio, byddwch yn barchus i eraill sy’n defnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.
  • Er mwyn eich diogelwch, peidiwch â chynnwys eich rhif ffôn, e-bost, cyfeiriad na gwybodaeth bersonol arall mewn postiad. Cofiwch, mae eich sylwadau yn weladwy i bawb.
  • Peidiwch â phostio deunydd sy'n anghyfreithlon, anweddus, difenwol, bygythiol, aflonyddol, difrïol, athrodus, atgas neu annifyr i unrhyw endid arall.
  • Peidiwch â phostio hysbysiadau trydydd parti, llythyron cadwyn na 'sbam'.

Rydym yn cadw'r hawl i ddileu postiau a blocio a/neu dileu defnyddwyr nad ydynt yn dilyn ein rheolau tŷ.

Nid yw'r safbwyntiau a'r barnau a fynegwyd ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Arolygiaeth Gofal Cymru o reidrwydd yn cynrychioli rhai Arolygiaeth Gofal Cymru. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am gywirdeb na dibynadwyaeth gwybodaeth a bostiwyd gan bartïon allanol. Nid yw dilyn ac ail-drydar/rhannu yn gyfystyr â chymeradwyaeth.

Argaeledd

Rydym yn monitro ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol o 9am i 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus), a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl yn ystod yr amseroedd hyn. Os ydych yn gofyn cwestiwn i ni y tu allan i'r oriau hyn, byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl. Efallai na fydd platfformau cyfryngau cymdeithasol ar gael o bryd i’w gilydd ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ddiffyg gwasanaeth oherwydd amser segur neu.