Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Ionawr 2020
  • Newyddion

Arolygiad o Wasanaethau Oedolion Hŷn: Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer Gwasanaethau Oedolion Hŷn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwnaethom gynnal arolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) (Dolen allanol), er mwyn gwerthuso pa mor dda y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn hybu annibyniaeth ac yn atal anghenion oedolion hŷn rhag gwaethygu.

Canfyddiadau Allweddol

Cryfderau

Llesiant – Gwelsom fod y weledigaeth ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion wedi'i hymgorffori'n dda yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (y Cyngor) ac asiantaethau partner. Mae ymdrechion sylweddol a llwyddiannus wedi cael eu gwneud i sicrhau bod arferion unigol yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac ar yr unigolyn.

Pobl – llais a dewis – Mae'r Cyngor yn ymgysylltu'n dda â'r bobl wrth lywio a llunio datblygiadau i'r gwasanaeth ac roedd y bobl yn teimlo bod eu lleisiau a'u dewisiadau yn cael eu clywed. Roedd y staff yn teimlo'n gadarnhaol ac yn ymroddedig i'w rolau.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – Gwelsom fod gwasanaethau oedolion y Cyngor yn darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol da ac integredig y mae pobl yn cael budd ohonynt drwy benderfyniadau cyflym a dull gweithredu cydgysylltiedig.

Atal ac ymyrraeth gynnar – Gwelsom fod amrywiaeth dda o grwpiau cymunedol yn y Cyngor sydd o ddiddordeb penodol i bobl hŷn. Gwelwyd ymyrraeth gynnar dda er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu.

Meysydd i'w gwella

Llesiant - Gwnaethom nodi nad oes cymorth ar gael bob amser i gynorthwyo pobl wrth iddynt fynd yn ôl i'w cartrefi ar ôl cael eu derbyn i'r ysbyty, pan fo'i angen arnynt. Dylai'r Cyngor adolygu'r arfer o anfon gwybodaeth am hunanariannu gofal at bobl pan nad oes gwasanaethau ailalluogi/galluogi ar gael er mwyn sicrhau ei fod yn gyson â'r ddeddfwriaeth. Dylai'r Cyngor sicrhau bod ei system ar gyfer trefnu gofal cartref mor effeithlon â phosibl.

Pobl – llais a dewis – Gwnaethom nodi fod oedi wrth gael gafael ar wasanaethau penodol yn golygu nad oes modd diwallu anghenion pobl cyn gynted â phosibl. Nid yw'r cynnig rhagweithiol i bobl gael cymorth yn Gymraeg ar waith yn llawn.

Partneriaethau, integreiddio a chydweithredu – rydym yn argymell y dylid gwella'r trefniadau rhyddhau yn Ysbyty Tywysoges Cymru er mwyn sicrhau nad yw iechyd a llesiant pobl hŷn yn gwaethygu oherwydd cyfnodau estynedig diangen yn yr ysbyty. Gellid symleiddio rhai o brosesau'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cynyddu cymorth amserol i'r bobl.

Atal ac ymyrraeth gynnar - Dylai'r Cyngor wella cysondeb y gwaith o gyfeirio pobl at wasanaethau a'i systemau sicrhau ansawdd. Mae'n rhaid i'r Cyngor sicrhau bod pob galwad gofal cartref 15 munud yn bodloni gofynion deddfwriaethol. Rhaid i'r Cyngor sicrhau bod digon o gymorth ar gael i ofalwyr y mae angen seibiant byr arnynt i ffwrdd oddi wrth eu cyfrifoldebau gofalu.

Y camau nesaf

Mae AGC ac AGIC yn disgwyl i'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd roi sylw i'r meysydd i'w gwella yn yr adroddiad. Bydd AGC yn monitro cynnydd drwy ei gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Darllenwch yr adroddiad llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.