Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Chwefror 2020
  • Newyddion

Barn y gofalwyr a'r bobl sy'n defnyddio gwasanaethau sydd ei hangen i werthuso deddfwriaeth

Mae Prifysgol De Cymru am siarad â phobl am effaith y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

Mae'r Brifysgol yn cynnal tri digwyddiad ymgysylltu ar 16 Mawrth i ddinasyddion, pobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr er mwyn cyfrannu at y gwaith o werthuso'r Ddeddf a rhoi eu barn ynghylch a yw'r Ddeddf yn cael effaith.

Mae'r trefnwyr yn awyddus iawn i glywed am brofiadau pobl o asesiadau ac adolygiadau ers i'r Ddeddf ddod i rym ym mis Ebrill 2016.

Bydd tair sesiwn ym Mhrifysgol De Cymru ar 16 Hydref - rhwng 1pm a 2:45pm, rhwng 3:15pm a 5pm, a rhwng 5:30pm a 7:15pm. Bydd lluniaeth ar gael yn y digwyddiadau.

Mae'r trefnwyr hefyd yn siarad â phobl sy'n gweithio yn y sector gofal.

Os hoffech ddod i'r digwyddiad, e-bostiwch ceri.jenkins@southwales.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, cliciwch y ddolen ar waelod y dudalen.