Dyfarnu gradd ‘annigonol’ i Wasanaeth Troseddwyr Ifanc Caerdydd yn ystod arolygiad ar y cyd
Cafodd yr arolygiad ei arwain gan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi ym mis Ionawr 2020, a'i gefnogi gan arolygwyr o AGC, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi.
Cefndir
Mae Timau Troseddwyr Ifanc yn goruchwylio plant rhwng 10 a 18 oed sydd wedi cael dedfryd gan lys, neu blant yr aethpwyd i'r afael â'u hymddygiad drwy benderfyniad y tu allan i'r llys. Mae gofyn bod y timau'n cynnwys staff o wasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol a gwasanaethau addysg, yr heddlu, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a gwasanaethau iechyd lleol.
Gradd
Dyfarnwyd gradd gyffredinol ‘Annigonol’ i Wasanaeth Troseddwyr Ifanc Caerdydd ym mhob maes gwaith: arwain a staffio; gweithio gyda phartneriaid fel y sector iechyd, y sector addysg a'r heddlu; a darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd wedi troseddu, a'u dioddefwyr.
Argymhellion
Ceir 14 o argymhellion y mae'r arolygwyr o'r farn y byddant yn gwella bywydau'r plant sy'n ymwneud â gwasanaethau troseddwyr ifanc, ac yn diogelu'r cyhoedd yn well, os cânt eu rhoi ar waith.
Ers yr arolygiad, mae'r uwch arweinwyr wedi penodi cadeirydd annibynnol newydd a phrofiadol i arwain Bwrdd Rheoli'r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc, ac wedi ymrwymo i ddarparu adnoddau ychwanegol.
Darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi.