Rydym wedi cyhoeddi ein Hadolygiad ar y cyd gan arolygiaethau o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA) yng Nghasnewydd
Rhwng 2 a 6 Rhagfyr 2019 cynhaliwyd arolygiad ar y cyd o'r ymateb amlasiantaethol i gamdriniaeth ac esgeulustod yng Nghasnewydd.
Ar y cyd ag Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub eu Mawrhydi (HMICFRS), Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi (HMIP) ac Estyn, roedd yr arolygiad hwn yn cynnwys gwerthusiad o'r modd yr oedd gwasanaethau lleol yn ymateb i achosion o gamfanteisio ar blant.
Gellir adolygu ein canfyddiadau am effeithiolrwydd gweithio mewn partneriaeth a gwaith asiantaethau unigol yng Nghasnewydd ar ein tudalen adrodd: Adolygiad ar y cyd gan Arolygiaethau o drefniadau amddiffyn plant (JICPA): Casnewydd, Rhagfyr