Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o'r adborth a gafwyd gan y sector gofal cymdeithasol cofrestredig am eu profiad o COVID-19
Dyma ein canfyddiadau o'r galwadau 'dal i fyny' â darparwyr gwasanaethau i oedolion a phlant pan oedd argyfwng COVID-19 ar ei waethaf.
Gillian Baranski, Prif Arolygydd, Arolygiaeth Gofal Cymru
Mae gofal cymdeithasol yn wasanaeth hanfodol i filoedd o bobl yng Nghymru a ategir gan ddull gweithredu seiliedig ar hawliau i hyrwyddo diogelwch a llesiant pobl.
Dangosodd yr ymateb i COVID-19 broffesiynoldeb ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ac ymrwymiad gofalwyr teuluol, ond gwnaeth hefyd dynnu sylw at feysydd i'w gwella yn y system.
Mae'r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o'r galwadau 'dal i fyny' a gynhaliwyd rhwng 30 Mawrth a 26 Gorffennaf, lle y cafodd ein harolygwyr 10,045 o sgyrsiau â gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru sy'n delio ag effaith COVID-19. Gwnaeth y galwadau hyn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad rheolaidd, cynorthwyo darparwyr a deall y materion roeddent yn eu hwynebu.
Rydym yn gobeithio y bydd yr adborth a gasglwyd yn y ddogfen hon yn helpu i lywio gwaith cynllunio dros y gaeaf ar gyfer y bobl hynny sy'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol.
Gellir gweld canfyddiadau allweddol y galwadau hyn a'r prif themâu a nodwyd yn y trosolwg hwn ar y dudalen hon: Crynodeb o'r adborth a gafwyd gan y sector gofal cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o gynllunio ar gyfer y gaeaf