Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 5 Hydref 2020
  • Newyddion

Coronafeirws COVID-19: Rhannu myfyrdodau cyn y gaeaf

Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a byrddau iechyd ledled Cymru i rannu'r myfyrdodau a'r dysgu a gasglwyd gan holl arolygiaethau Cymru yn ystod y pandemig.

Mae'r datganiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn cynnwys ein myfyrdodau mewn ymateb i'r pandemig dros y chwe mis diwethaf, ac yn amlinellu'r materion allweddol y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth wneud gwaith cynllunio a gwella ar gyfer gaeaf a fydd yn siŵr o fod yn un anodd i'r system iechyd a gofal.

Byddwn yn parhau i gydweithio fel arolygiaethau i dynnu sylw at unrhyw faterion sy'n codi cyn gynted â phosibl, er mwyn cyfrannu'n gadarnhaol at y gwaith parhaus o reoli'r pandemig.

Gellir cael gafael ar y datganiad llawn isod:

Coronafeirws COVID-19: Rhannu myfyrdodau cyn y gaeaf