Gofal plant a chwarae ar-lein - gwasanaethau a ataliwyd dros dro
Rydym yn ffonio rhai gwasanaethau gofal plant a chwarae a ataliwyd dros dro i sicrhau eu bod yn creu cyfrif ar-lein gyda ni os byddant am barhau wedi'u cofrestru.
Ar 6 Ionawr 2020, lansiwyd AGC Ar-lein ar gyfer pob darparwr gofal plant a chwarae.
Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i wasanaethau gynnal eu holl fusnes â ni drwy AGC Ar-lein, gan gynnwys gwneud ceisiadau i gofrestru; amrywiadau; hysbysiadau; a chwblhau'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) pan ofynnir iddynt wneud hynny.
Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth â darparwyr yn uniongyrchol drwy eu cyfrif AGC Ar-lein.
Pam ein bod yn cysylltu â darparwyr
Ym mis Gorffennaf 2020, gwnaethom ysgrifennu at bob gwasanaeth cofrestredig a oedd wedi cael ei atal dros dro yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd y llynedd, pan roddwyd gwybod gyntaf i ddarparwyr gofal plant a chwarae am AGC Ar-lein.
Gwnaethom ofyn i ddarparwyr gysylltu â ni i greu eu cyfrif AGC Ar-lein, ni waeth p'un a oeddent yn darparu gwasanaeth ai peidio.
Mae nifer o wasanaethau a ataliwyd dros dro o hyd nad ydynt wedi creu eu cyfrif ar-lein eto, ac rydym wedi dechrau ffonio'r gwasanaethau hynny a ataliwyd dros dro i sicrhau eu bod yn creu cyfrif, neu'n canslo'r gwasanaeth o'u gwirfodd os nad ydynt am barhau i fod wedi'u cofrestru mwyach.
Hyd yn oed os byddwch wedi creu cyfrif ar-lein yn flaenorol, bydd dal angen i chi ffonio AGC er mwyn ei actifadu cyn i chi ddechrau defnyddio ein gwasanaethau ar-lein.
Pwysig
Os na fydd AGC wedi llwyddo i gysylltu â darparwr ar ôl defnyddio pob dull sydd ar gael i ni, ac os nad ydym wedi cael ymateb i'r llythyr na'r e-byst dilynol, efallai y byddwn yn ystyried cymryd camau i ganslo cofrestriad y darparwr. Os bydd AGC yn canslo cofrestriad darparwr, gall hyn arwain at ganlyniadau os bydd y darparwr am weithio gyda phlant yn y dyfodol.
Ffoniwch ni os nad ydych chi wedi creu cyfrif AGC Ar-lein ar gyfer eich gwasanaeth eto, i sicrhau bod eich gwasanaeth yn parhau wedi'i gofrestru â ni.
Cymorth i chi
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau, neu os oes angen i chi greu/actifadu cyfrif ar-lein, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio agc@llyw.cymru.