Cyhoeddwyd ein hadroddiad arolygu ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiadau o wasanaethau cymdeithasol plant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion a gynhaliwyd rhwng 12 a 23 Hydref 2020.
Diben yr arolygiadau hyn oedd ystyried y cynnydd y mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ei wneud ar eu taith tuag at wella yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2020 i drafod methiannau sylweddol yng ngwasanaethau plant Wrecsam a cheisio eglurhad gan yr awdurdod lleol ynghylch ei gynlluniau ar unwaith ar gyfer gwella.
Treuliodd tîm o arolygwyr AGC saith diwrnod gwaith yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol plant a thri diwrnod yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol oedolion. Gwnaethom hefyd fonitro gwasanaethau plant drwy gydol y flwyddyn flaenorol, gan gwrdd ag uwch-reolwyr ac adolygu data perfformiad. Mae amrywiaeth y gwaith a wnaed gan y Prif Swyddog Gweithredol i wella gwasanaethau cymdeithasol plant yn Wrecsam mewn cyfnod cymharol fyr yn rhywbeth i'w ganmol, ac rydym yn falch bod y camau pendant a gymerwyd wedi creu'r amgylchedd sydd ei angen i sicrhau newidiadau cadarnhaol sylweddol.
Mae ein holl ganfyddiadau ac argymhellion sy'n deillio o'r arolygiadau hyn i'w gweld ar dudalen yr adroddiad: Adroddiad ar Arolygiad Seiliedig ar Risg o Wasanaethau Plant ac Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o Wasanaethau Oedolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.