Ni fyddwn yn anfon gohebiaeth dorfol at Reolwyr Cofrestredig mwyach
Y rheswm dros hyn yw am nad ydym yn cofrestru rheolwyr nac yn gofyn am eu cyfeiriadau e-bost mwyach.
Ers i Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ddod i rym, nid ydym yn cofrestru rheolwyr mwyach ac felly nid ydym yn gofyn am gyfeiriadau e-bost rheolwyr erbyn hyn. Caiff rheolwyr eu cofrestru gan Gofal Cymdeithasol Cymru (dolen allanol).
Felly, ni fyddwn yn e-bostio Rheolwyr Cofrestredig mwyach pan fyddwn yn anfon gohebiaeth dorfol naill ai ar ein rhan ni neu ar ran Llywodraeth Cymru neu unrhyw gorff arall – dim ond Unigolion Cyfrifol/Personau Cofrestredig a/neu gyfeiriad e-bost y gwasanaeth.
Bydd hyn ond yn effeithio'n bennaf ar ohebiaeth dorfol, er enghraifft llythyrau a diweddariadau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â phandemig COVID-19 neu unrhyw newidiadau allweddol i'r gyfraith fel rhan o Brexit.
Ni fydd hyn yn effeithio ar negeseuon e-bost o ddydd i ddydd gan staff AGC. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd Rheolwyr Cofrestredig yn sylwi eu bod yn derbyn llai o ohebiaeth dorfol gan AGC.
Er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cyrraedd y bobl gywir yn eich sefydliad, dylech sicrhau eich bod yn darparu cyfeiriad e-bost cyfredol ar gyfer y gwasanaeth yn eich cyfrif AGC Ar-lein. Gall Unigolion Cyfrifol neu Unigolion Cofrestredig wneud hyn drwy fewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein a diweddaru eich proffil gwasanaeth.
Os ydych chi'n Rheolwr Cofrestredig sydd am barhau i dderbyn cyfathrebiadau torfol gan AGC, gwnewch yn siŵr bod gennych fynediad i flwch post generig eich gwasanaeth, neu trefnwch i e-byst perthnasol gael eu hanfon atoch.
Rheolwyr sy'n gynorthwywyr ar-lein
Os ydych yn Rheolwr Cofrestredig ac wedi'ch rhestru fel cynorthwyydd ar-lein ar gyfer eich gwasanaeth ar AGC Ar-lein, ni fydd hyn yn effeithio ar eich cyfrif. Dim ond ar negeseuon e-bost torfol a gaiff eu hanfon sy'n cynnwys gwybodaeth a diweddariadau y bydd y newid busnes hwn yn effeithio.