Newidiadau arfaethedig i'n dull gwella a gorfodi ar gyfer gwasanaethau rheoleiddiedig
Ym mis Mawrth eleni, byddwn yn cyhoeddi ein Polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi diwygiedig.
Mae'r polisi yn nodi'r egwyddorion a'r prosesau rydym yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheoleiddiedig yn helpu pobl i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ac yn eu cadw'n ddiogel.
Mae'r newidiadau allweddol i ddarparwyr yn y polisi yn cynnwys y canlynol:
- Sut rydym yn ymateb i feysydd o ddiffyg cydymffurfio ac yn adrodd arnynt.
Digwyddiadau arfaethedig i ddarparwyr
Er mwyn cefnogi darparwyr mewn perthynas â'r newidiadau arfaethedig i'r polisi, byddwn yn cynnal tri digwyddiad rhithwir i ddarparwyr tua diwedd mis Mawrth yn canolbwyntio ar yr hyn y mae'r newidiadau i'r polisi yn ei olygu i wasanaethau. Byddwn yn cysylltu â'r Unigolion Cyfrifol yn uniongyrchol i gadarnhau'r dyddiadau a rhoi cyfarwyddiadau ar sut i gofrestru yn ystod yr wythnosau nesaf.
Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy ffonio 0300 7900 126 neu e-bostio agc@llyw.cymru.