Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Ebrill 2021
  • Newyddion

Angen cymryd camau i sicrhau bod eich cofnod darparwr yn parhau i gael ei gynnwys yng nghyfeiriadur ein gwefan

O 5 Mai 2021 byddwn yn dileu rhifau ffôn o'n cyfeiriadur gwasanaeth lle na roddwyd caniatâd i rannu'r rhifau hynny.

Rydym wedi ysgrifennu at ddarparwyr gwasanaeth i roi gwybod iddynt am y newidiadau i'n cyfeiriadur gwasanaeth a fydd yn dileu rhifau ffôn lle nad yw gwasanaethau unigol wedi rhoi caniatâd i arddangos eu manylion.

Y camau nesaf y dylech eu cymryd

Er mwyn sicrhau bod eich rhif ffôn yn aros ar ein tudalen gwasanaethau, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC Ar-lein i ddewis rhoi tic o dan yr adran ‘golygu proffil gwasanaeth’, fel y dangosir isod. Dim ond os yw eich cyfrif wedi'i actifadu i lefel unigolyn cyfrifol, person cyfrifol neu swyddog sefydliadol y gellir cwblhau hwn.

service directory permissions

Os na hoffech arddangos eich manylion yn ein cyfeiriadur, sicrhewch eich bod yn dewis y groes ar gyfer y cwestiwn uchod.

Noder, lle na roddwyd ateb i'r cwestiynau uchod, byddwn yn tybio yn awtomatig nad ydych wedi rhoi caniatâd ac ni chaiff eich manylion eu harddangos yn ein cyfeiriadur.

Cymorth i chi

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy ffonio 0300 7900 126 a dewis opsiwn 4, neu e-bostio agc@llyw.cymru.

Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, ewch i'n tudalen gwasanaethau ar-lein i gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru.