Newidiadau i'n ffordd o brosesu gwiriadau Prawf Adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Rydym yn newid y broses ar gyfer cynnal gwiriadau prawf adnabod y DBS o 1 Gorffennaf ymlaen.
O'r dyddiad hwn ymlaen, ni fyddwn yn gofyn i chi fynd i wiriad prawf adnabod rhithwir neu wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd AGC yn ystod eich oriau gwaith. Bydd modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio prawf adnabod a ddarperir mewn Swyddfa Bost leol.
O 1 Gorffennaf 2021 ymlaen, bydd y system gwneud cais ar-lein yn eich ysgogi, fel rhan o'r broses gwneud cais, i drefnu apwyntiad gwirio prawf adnabod mewn Swyddfa Bost o'ch dewis sy'n cynnig y gwasanaeth. Bydd ffi weinyddol fach o £12 am y gwasanaeth hwn.
Dysgwch fwy am sut i wneud cais am wiriad y DBS yn yr adran o'n gwefan sy'n trafod gwiriadau'r DBS.