Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Mehefin 2021
  • Newyddion

Camau ofynnol ar gyfer gwasanaethau wedi ei atal yn wirfoddol

Os yw eich gwasanaeth wedi ei atal yn wirfoddol ar hyn o bryd a bod y dyddiad wedi dod i ben, neu bod y dyddiad yn dod i ben cyn diwedd y mis mae angen i chwi weithredu.

Mae’n ofyn rheoleiddiol i chwi adael i ni wybod beth yw eich bwriad ynglyn a hyn.

Gall eich bod yn:

  • Codi’r ataliad a darparu gwasanaeth eto, neu
  • Ymestyn cyfnod yr ataliad gwirfoddol, yn cynnwys dyddiad dod i ben newydd

Er mwyn gwneud hyn mae’n rhaid i chwi gyflwyno hysbysiad – Atal Gwasanaeth yn Wirfoddol trwy eich cyfrif AGC Ar-lein er mwyn diweddaru eich manylion.

Os nad ydych yn bwriadu ailddechrau rhedeg eich gwasanaeth, mae'n rhaid i chi gyflwyno amrywiad ar-lein i ganslo eich gwasanaeth trwy eich cyfrif AGC Ar-lein.

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth fynd i mewn i'ch cyfrif AGC Ar-lein neu wrth ei actifadu, cysylltwch â ni ar 0300 7900 126, opsiwn 4, neu e-bostiwch CIWRegistration@llyw.cymru.

Mae’n ofyn rheoleiddiol i chwi ddarparu’r wybodaeth yma. Os nad ydych yn gwneud hyn fe fydd AGC yn cysidro ei opsiynau gorfodaeth mewn perthynas â cofrestriad eich gwasanaeth.