Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Mehefin 2021
  • Newyddion

Arolygiadau ar y cyd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac Estyn o leoliadau nas cynhelir: ailddechrau arolygiadau ar y cyd

Gwnaethom atal ein rhaglen arolygu ar y cyd ym mis Mawrth 2020, a buom yn adolygu’r sefyllfa bob tymor.

Gyda’n gilydd, mae AGC ac Estyn wedi penderfynu ymestyn y cyfnod atal cyfredol ar gyfer arolygiadau ar y cyd hyd ddiwedd tymor yr hydref. Bydd hyn yn galluogi Estyn i gynorthwyo’r sector i adnewyddu ei drefniadau a chynllunio ar gyfer y cwricwlwm i Gymru a diwygio anghenion dysgu ychwanegol. Ein nod yw ailddechrau arolygiadau ar y cyd yn nhymor y gwanwyn 2022. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus ac yn esblygu ein cynlluniau, yn ôl yr angen.

Yn ystod y saib mewn arolygiadau, rydym wedi cysylltu ag ystod o randdeiliaid i werthuso a oes angen gwneud unrhyw addasiadau i’r fframwaith. Rydym yn myfyrio ar yr adborth hwn ac yn gwneud newidiadau addas i’r fframwaith. Ein nod yw cyhoeddi’r fframwaith diwygiedig ym mis Tachwedd 2021. Byddwn yn sensitif i brofiadau lleoliadau o’r pandemig pan fyddwn yn ailddechrau arolygiadau.