Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 30 Medi 2021
  • Newyddion

Rydym yn treialu ffordd newydd o wneud cais am wybodaeth drwy AGC Ar-lein

Rydym wedi datblygu ffordd o'i gwneud yn gyflymach, yn haws ac yn fwy diogel i ddarparwyr anfon dogfennau atom.

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bawb, ac yn anochel mae wedi newid y ffordd y mae AGC yn gweithio.

O ganlyniad i'r pandemig, defnyddir yr e-bost i drosglwyddo mwy fyth o ddogfennau rhwng gwasanaethau ac AGC.

O 1 Hydref 2021 ymlaen, bydd grŵp sampl o ddarparwyr penodol yn gallu anfon dogfennau y gofynnir amdanynt atom mewn ffordd newydd ddiogel. Bydd y cynllun peilot hwn ar waith dros yr ychydig fisoedd nesaf, ac yn cael ei ehangu i'r holl ddarparwyr yn y pen draw. 

Beth sy'n newydd?

Bydd yr adnodd diogel newydd hwn yn disodli'r defnydd o e-byst wrth ofyn am ddogfennau gan wasanaethau. Bydd y ceisiadau hyn i'w gweld yn uniongyrchol yng nghyfrif AGC Ar-lein cynrychiolwyr y gwasanaethau, a bydd darparwyr yn derbyn neges yn eu hysbysu bod neges wedi cyrraedd.

Gwasanaethau gwarchod plant a gofal dydd plant

Bydd Unigolion Cyfrifol, Personau Cofrestredig a Swyddogion Sefydliadau sydd wedi actifadu eu cyfrif AGC Ar-lein nawr yn gallu ychwanegu a dileu ‘Cynorthwywyr Ar-lein’ ar gyfer eu gwasanaethau. Unwaith maent wedi cael eu hychwanegu, gall y cynorthwywyr ar-lein hyn ymateb i geisiadau am wybodaeth ar ran y gwasanaeth.

Pam ein bod wedi gwneud y newid hwn

Mae'r angen i ofyn am ddogfennau'n gyflym a hawdd, olrhain y ceisiadau hynny, rhoi amserlenni pendant ar gyfer ymateb, a chadw dogfennau'n ddiogel a dim ond am yr amser sydd ei angen, yn hollbwysig i AGC o ystyried pa mor sensitif yn aml yw'r wybodaeth sydd ei hangen i'n helpu i wneud ein gwaith.

Byddwn ni’n eich diweddaru wrth i gynllun peilot yr adnodd newydd a chyffrous hwn ddatblygu.