Graddau i ailddechrau ar gyfer arolygiadau Gofal Plant a Chwarae o fis Tachwedd
Gwnaethom roi'r gorau i ddyfarnu graddau dros dro yn ystod y pandemig. Ar ôl adolygiad rydym wedi penderfynu ailddechrau dyfarnu graddau o ddydd Llun 8 Tachwedd 2021.
Mae graddau yn rhoi eglurder i rieni a'r cyhoedd am ein dyfarniadau. Maent yn ffordd o gydnabod gwaith da a thynnu sylw at feysydd lle y gallai perfformiad fod yn well. Fel y cyfryw, maent yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o hyrwyddo canlyniadau da i'r plant sy'n defnyddio gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru.