Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
0300 7900 126

22, 23 a 28 Mawrth 2023 – Digwyddiadau gwybodaeth y datganiad Blynyddol

Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u hanelu at yr Unigolion Cyfrifol ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant sydd wedi'u cofrestru o dan RISCA.

Rydym wedi ysgrifennu at yr holl unigolion cyfrifol gwasanaethau RISCA i'w gwahodd i fynychu un o'n tri digwyddiad gwybodaeth yn ystod mis Mawrth 2023. Bydd y digwyddiadau hyn yn cefnogi darparwyr trwy broses datganiad Blynyddol 2023.

Bydd y digwyddiadau’n para awr a hanner a byddan nhw’n rhoi cyfle i Unigolion Cyfrifol wylio demo byw o’r broses o gyflwyno’r datganiad Blynyddol ac i ofyn unrhyw gwestiynau.

Bydd y fideo demo hefyd ar gael trwy ein sianel YouTube a'n gwefan o 27 Mawrth 2023.

Os mai chi yw’r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer gwasanaeth RISCA a heb dderbyn e-bost am y digwyddiadau hyn, anfonwch e-bost at agc.cyfathrebu@llyw.cymru.

  • Rhannu’r dudalen hon
  • Twitter Facebook Email More