AGC ac Estyn yn ailddechrau Arolygiadau ar y cyd o ddiwedd Ionawr 2022
Diweddariad gan yr Arolygiaethau.
Yn ystod tymor yr hydref 2021, nodom ni (Estyn ac AGC) ein bwriad i ailddechrau arolygiadau ar y cyd yn ystod tymor y gwanwyn 2022. Mae bellach yn fwriad gennym ailddechrau arolygu ar y cyd tua diwedd mis Ionawr.
I gefnogi’r cam yn ôl i weithgarwch arolygu craidd, cyhoeddom fframwaith arolygu diwygiedig ym mis Tachwedd 2021 ar ein gwefannau. Byddwn yn sensitif i brofiadau lleoliadau o'r pandemig pan fyddwn yn ailgydio mewn arolygiadau ac yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus, gan esblygu ein cynlluniau yn ôl yr angen.
Yn ystod tymor y gwanwyn, ni fyddwn yn cyhoeddi barnau crynodol cyffredinol i themâu arolygu unigol a byddwn yn adolygu hyn yn gyson.
Bydd Estyn yn rhoi eu gweithdrefnau gweithgarwch dilynol ar waith a bydd AGC yn rhoi ein polisi sicrhau gwelliant a gorfodi ar waith yn ôl yr angen.