Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Mai 2022
  • Newyddion

Heriau ar gyfer lleoliadau gofal plant a chwarae

Ein rôl o ran cefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae wrth i ni ddelio ag effaith barhaus y pandemig.

Rydym yn ymwybodol bod llawer o leoliadau yn wynebu heriau sylweddol o ran recriwtio, cadw neu leoli eu tîm staff, gan gynnwys delio ag absenoldebau staff oherwydd yr angen i ynysu pan fyddant yn mynd yn sâl. Rydym hefyd yn deall bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i ailsefydlu rhai o ofynion y Safonau Gofynnol Cenedlaethol, a oedd wedi cael eu llacio dros dro, wedi ychwanegu at yr anawsterau, yn enwedig oherwydd yr angen am aelodau staff ychwanegol. 

Er ein bod ni, Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn rhan o Lywodraeth Cymru, nid ydym yn gyfrifol am benderfyniadau ynghylch llacio’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Ar hyn o bryd, mae cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru yn ystyried sawl mater a godwyd gan ddarparwyr gofal plant yn dilyn adroddiad ar adolygiad o’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn 2019. Mae’r materion hynny’n cynnwys aelodau staff ychwanegol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori â darparwyr gofal plant ar rai diwygiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.

Byddwn bob amser yn ystyried yr effaith ar blant yn sgil unrhyw newidiadau i drefniadau staffio mewn lleoliadau. Bydd hyn yn cynnwys y camau a gymerwyd gan y darparwr i liniaru unrhyw risg i ddiogelwch ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Byddwch yn sicr y bydd ein harolygiadau yn edrych ar bethau fesul achos. Bydd pob sefyllfa yn cael ei hystyried yn ôl ei haeddiant ei hun, gyda diogelwch a llesiant plant yn flaenoriaeth i ni. 

Rydym yn deall gwerth y sector gofal plant a chwarae i deuluoedd yng Nghymru ac i economi Cymru. Rydym wedi atodi dogfen isod, a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, sy'n amlinellu’r cymorth a allai fod o gymorth i chi ar adeg anodd iawn. Crynodeb yn unig ydyw a gellir cysylltu â chyrff perthnasol am ragor o wybodaeth.