Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Mai 2022
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich safbwyntiau am Cafcass Cymru

Os ydych chi’n derbyn, neu os ydych chi wedi derbyn, gwasanaeth gan Cafcass Cymru mewn perthynas â chyfraith teulu gyhoeddus, yna rydym yn croesawu eich adborth erbyn dydd Gwener 10 Mehefin 2022.

Ym mis Mehefin 2022, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal archwiliad sicrwydd o Cafcass Cymru.

Bydd hwn yn canolbwyntio ar ansawdd ac effeithiolrwydd prif swyddogaethau Cafcass Cymru o weithredu fel gwarcheidwaid plant yn darparu cyngor arbenigol i’r llysoedd ac yn diogelu a chefnogi plant a theuluoedd.

Os ydych chi’n derbyn, neu os ydych chi wedi derbyn, gwasanaeth gan Cafcass Cymru mewn perthynas â cheisiadau cyfraith teulu gyhoeddus(dolen allanol), yna hoffem glywed am eich profiad. Mae cyfraith gyhoeddus yn ymwneud ag achosion ‘gofal’ neu ‘goruchwyliaeth’ lle mae awdurdod lleol wedi gwneud cais i’r llys teulu i amddiffyn plentyn pan fydd pryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant plentyn.

Sylwch ein bod yn canolbwyntio yn unig ar rôl Cafcass o ran materion cyfraith teulu gyhoeddus ar hyn o bryd ac nid ar faterion preifat sy'n ymwneud â theuluoedd(dolen allanol) sy’n ei chael hi’n anodd cytuno ar yr hyn sydd orau i’w plant ac, er mwyn helpu i wella pethau, efallai y byddant yn gofyn i’r llys teulu eu cynorthwyo i ddatrys eu hanghytundeb.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod sy’n berthnasol i chi, i roi eich adborth i ni erbyn dydd Gwener, 10 Mehefin 2022.

Cliciwch ar y ddolen briodol isod i’w gwblhau: Mae'r arolygon hyn ar gyfer rhieni a gofalwyr (fel perthnasau neu ffrind) plentyn a phlant sy’n derbyn, neu sydd wedi derbyn, gwasanaeth gan Cafcass Cymru:

Os ydych yn rhanddeiliad, hoffem glywed gennych er mwyn sicrhau bod sefydliadau allweddol sy’n gweithio gyda Cafcass Cymru yn gallu rhannu eu safbwyntiau.

Fel arall, gallwch gwblhau'r fersiwn hawdd ei deall o'r arolwg, sydd i'w gweld ar waelod y dudalen hon. Lawrlwythwch a chwblhewch yr arolwg, yna e-bostiwch ef yn ôl i AGC.AwdurdodLleol@llyw.cymru. Bydd ein llythyr arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.