Archwilio ffyrdd newydd o weithio i hyrwyddo gwelliant
Ar hyn o bryd rydym yn archwilio dull newydd o gefnogi lleoliadau gofal plant a chwarae i wella ein methodoleg arolygu bresennol.
Un o egwyddorion arweiniol AGC yw:
Cefnogi gwelliant ac arloesedd: byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth a'n pwerau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i wella ac i annog ffyrdd newydd o weithio.
Ein nodau
- gwneud mwy i hybu gwelliant yn y sector, wrth roi sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch lleoliadau hefyd
- annog arloesi drwy hyrwyddo a rhannu enghreifftiau o ddarpariaeth gofal plant a chwarae o ansawdd rhagorol
Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar sut y gallwn wneud mwy i gefnogi lleoliadau i ysgogi eich gwelliant eich hun a bydd yn ystyried trefniadau newydd ar gyfer gweithgarwch sicrwydd interim rhwng arolygiadau, yn seiliedig ar ansawdd y ddarpariaeth ym mhob lleoliad unigol.
Y camau nesaf
Byddwn yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr polisi Llywodraeth Cymru, darparwyr a rhanddeiliaid eraill i greu ymrwymiad ar y cyd i wella canlyniadau i blant.
Nid oes angen unrhyw gamau gan ddarparwyr ar hyn o bryd. Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i'r prosiect ddatblygu.