Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 22 Medi 2022
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghyngor Sir Ynys Môn

Ym mis Hydref 2022, byddwn yn cynnal Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o'r adran gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Ynys Môn, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r arolwg isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 10 Hydref 2022.

Arolwg ar gyfer pobl sy'n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol (Dolen allanol)

Gallwch chi hefyd ffonio 0300 7900 126 i dderbyn copi caled.

Bydd ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.