Rydym wedi cyhoeddi adroddiad blynyddol ein Prif Arolygydd ar gyfer 2021-22
Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol.
Mae ein hadroddiad blynyddol a gyhoeddwyd heddiw yn tynnu sylw at effaith barhaus y pandemig ar y gweithlu gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae ledled Cymru.
Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r ffyrdd rydym wedi parhau i ddefnyddio adborth gan y cyhoedd a darparwyr i helpu i sicrhau bod ein rhaglen arolygu yn parhau i gyflawni ein blaenoriaeth allweddol – rhoi sicrwydd i'r cyhoedd a Gweinidogion ynghylch diogelwch ac ansawdd y gwasanaethau rydym yn eu rheoleiddio a'u harolygu.
Mae ein hadroddiad hefyd yn cynnwys myfyrdodau a chanfyddiadau o’n rhaglen sicrwydd.
Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:
Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan straeon unigol am weithwyr gofal, gwirfoddolwyr, rheolwyr ac arweinwyr yn cefnogi pobl mewn angen. Mae'r gweithlu wedi lleihau ac wedi blino ond yn parhau i gyflawni. Rwy'n cael fy atgoffa, ar draws yr ystod o wasanaethau rydym yn eu rheoleiddio ac yn eu harolygu, cymaint o ddaioni y gallant ei gyflawni o dan yr amgylchiadau anoddaf.