Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Tachwedd 2022
  • Newyddion

Cystadleuaeth cerdyn Nadolig 2022

Cerdyn Nadolig AGC 2021
Cerdyn Nadolig AGC 2021

A ydych wedi cofrestru fel darparwr gyda ni? Rhowch gynnig ar ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig!

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad ein cystadleuaeth cerdyn Nadolig digidol, a hoffem wahodd ein darparwyr cofrestredig i gyd i anfon unrhyw ddarluniau neu gwaith celf neu atom sydd wedi'u creu gan bobl neu blant sy'n defnyddio'u gwasanaeth, ar thema'r Nadolig.

Rydym wedi cysylltu â phob darparwr cofrestredig yn uniongyrchol dros e-bost i'w gwahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth eleni.   Anfonwch ffotograff neu sgan o'ch gwaith celf i agc.cyfathrebu@llyw.cymru, erbyn dydd Iau 8 Rhagfyr.  Plis atodwch enw cyntaf y person, ei oedran, ynghyd ag enw eich gwasanaeth gyda phob darlun.

Cynlluniau buddugol

Bydd ceisiadau buddugol yn cael eu dewis a bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu dros e-bost eu bod wedi ennill.  Bydd y gwaith celf yn ymddangos ar ein cerdyn Nadolig digidol swyddogol ar gyfer 2022, a fydd yn cael ei anfon at holl danysgrifwyr ein cylchlythyr, ac yn cael ei arddangos ar ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch ein dilyn ar TwitterFacebook neu Linkedin.

Preifatrwydd a chaniatâd

Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd unrhyw bartneriaid, gwarcheidwaid neu ofalwyr perthnasol er mwyn anfon y gweithiau celf i'r gystadleuaeth.  Gallwch ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd i gael rhagor o wybodaeth.

Cwestiynau?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch agc.cyfathrebu@llyw.cymru