Peidiwch â cholli'r cyfle i gael eich brechlynnau ffliw a COVID-19 yr hydref hwn
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog oedolion a phlant sy'n gymwys i gael pigiad ffliw a phigiad COVID-19 am ddim i fanteisio ar y cynnig.
Mae arbenigwyr iechyd y cyhoedd wedi codi pryderon y bydd tymor y ffliw o bosibl yn dechrau'n gynharach eleni ac y bydd yn effeithio ar fwy o bobl, wrth i feirysau anadlol eraill ddod i'r amlwg unwaith eto yn dilyn cyfyngiadau COVID-19.
Mae'r siawns o ddod yn ddifrifol wael gyda COVID-19 neu'r ffliw yn lleihau'n fawr drwy gael eich brechu, felly hefyd y risgiau y byddwch yn lledaenu'r feirysau hyn. Bydd cael eich brechu'n llawn yn helpu i'ch diogelu chi a'r rhai o'ch cwmpas. Mae hyn yn golygu cael eich brechlyn ffliw a chwrs llawn o frechlynnau COVID-19, gan gynnwys y pigiad atgyfnerthu pan fydd ei angen.
Yn ogystal â'ch diogelu chi, mae cael eich brechu hefyd yn eich atal rhag lledaenu'r feirysau hyn i'ch ffrindiau, eich teulu a'r bobl rydych yn gofalu amdanynt a all fod yn agored iddynt.
Pwy sy'n gymwys i gael brechlyn rhag y ffliw a phigiad atgyfnerthu COVID-19?
- Menywod beichiog
- Pobl 50 oed a throsodd
- Pobl â chyflwr iechyd hirdymor sy'n cynyddu'r risg (o 6 mis oed ar gyfer y ffliw ac o 5 oed ar gyfer brechlyn COVID-19)
- Pobl sy'n byw mewn cartref gofal
- Pobl ag anabledd dysgu
- Pobl â salwch meddwl difrifol
- Pobl sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan (o 6 mis oed ar gyfer y ffliw ac o 5 oed ar gyfer brechlyn COVID-19)
- Gofalwyr 16 oed a throsodd
- Gweithwyr rheng flaen ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
- Pob aelod o staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn
Sut mae cael y brechlyn?
Am ragor o wybodaeth am gael eich brechlynnau ffliw a COVID-19, ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.