Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Tachwedd 2022
  • Newyddion

Digwyddiadau Llywodraeth Cymru ar wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal tri digwyddiad byw i ddarparwyr a fydd yn sôn am sut i hawlio taliadau gan ddefnyddio gwasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru.

Dim ond un o'r tair sesiwn sydd ar gael y bydd angen i ddarparwyr ei mynychu.

Bydd recordiadau o'r sesiynau uchod ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (Dolen allanol) i ddarparwyr na allant fynychu unrhyw un o'r sesiynau.

Mae recordiadau o ddigwyddiadau byw blaenorol ar gael i'w gweld yma:
Sut i gofrestru lleoliad ac ymuno â lleoliad presennol (Dolen allanol)
Sut i gadarnhau cytundebau â rhieni (Dolen allanol)

Hyfforddiant sgiliau digidol

Gallwch hefyd gael hyfforddiant sylfaenol am ddim i ddatblygu eich sgiliau digidol drwy sesiynau hyfforddiant byw a sesiynau hyfforddiant wedi'u recordio ymlaen llaw gyda Cymunedau Digidol Cymru (Dolen allanol).

Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru (Dolen allanol).

Os ydych chi angen rhagor o gymorth, cysylltwch â Gwasanaeth Gwybodaeth Teuluol eich awdurdod lleol (Dolen allanol).