Lefelau uchel o dwymyn goch yn cylchredeg yn y boblogaeth gofal plant
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi llythyr i ddarparwyr gofal plant a chwarae am y sefyllfa.
Roedd y llythyr (Dolen allanol) yn esbonio’r lefelau uchel anhymhorol o’r dwymyn goch sy’n cylchredeg yn y boblogaeth gofal plant ac oedran ysgol, gyda’r risg ychwanegol ychwanegol o salwch sy’n cyd-gylchredeg.
Os ydych yn ddarparwr gofal plant a chwarae, dylech hefyd fod wedi derbyn copi o'r llythyr trwy e-bost.