Yr amserlen ar gyfer cyhoeddi arolygiad ar gyfer gwasanaethau cymorth gofal cartref
O 16 Rhagfyr mae ein dull o arolygu gwasanaethau cymorth cartref yn newid.
Ar hyn o bryd, rydym yn hysbysu darparwyr gwasanaethau cymorth cartref am ddyddiad yr ymweliad arolygu.
O 16 Rhagfyr, er mwyn gallu gweithio mewn ffordd hyblyg, byddwn yn parhau i hysbysu darparwyr o'n harolygiad bythefnos ymlaen llaw, ond gan nodi cyfnod o bythefnos lle caiff ein hymweliad arolygu ei gynnal.
Os ydych yn ddarparwr gwasanaethau cymorth cartref a bod gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i agc@llyw.cymru.