Enillwyr Cystadleuaeth cerdyn Nadolig 2022
Diolch i bawb a gymerodd ran yng nghystadleuaeth cerdyn Nadolig AGC 2022.
Rydym wedi cael dros 150 o gardiau gan artistiaid talentog iawn ynghyd ag unigolion brwdfrydig o wasanaethau gofal ledled Cymru ac enillwyr eleni yw::
- Hannah, 25, gwasanaeth Adferiad Recovery (chwith)
- Pobl oed 65-99, Cartref Gofal Tŷ Eirin, Tonyrefail, Harbour Health Care (dde)
Bydd y gwaith celf yn ymddangos ar ein cerdyn Nadolig 2022 a fydd yn cael ei e-bostio at ein holl staff, gwasanaethau cofrestredig a rhanddeiliaid yr wythnos hon.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi rhai o’r cofnodion ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i bawb eu mwynhau.
Gillian Baranski Prif Arolygydd, AGC:
Roeddwn yn awyddus iawn i ddiolch i bawb am roi o'u hamser i anfon y dyluniadau cardiau a cherddi atom yn ystod yr amseroedd heriol ac anodd hyn. Hefyd, diolch arbennig iawn i'r aelodau o staff, gofalwyr ac eraill a helpodd bobl a phlant i greu eu gwaith celf a mynegi eu creadigrwydd dibendraw.
Gan ddymuno Nadolig Llawen iawn i chi a Blwyddyn Newydd Dda,
Dogfennau
-
Cerdyn Nadolig AGC 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MBPDF, Maint y ffeil:1 MB