Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 11 Ionawr 2023
  • Newyddion

Lleoliadau nas cynhelir: Arolygiadau ar y cyd gan AGC ac Estyn

Pan wnaethom ailddechrau arolygiadau ar y cyd ag Estyn ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom atal y defnydd o farnau dros dro yn dilyn y pandemig.

O 27 Chwefror 2023, byddwn yn ailgyflwyno cyhoeddi barnau ar gyfer ein harolygiadau ar y cyd.

Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd os yw lleoliadau'n cael eu rhoi yn y categori dilyniant ar y cyd 'gwelliant â ffocws. Byddwn yn parhau i ddefnyddio ein polisi sicrhau gwelliant a gorfodi yn ôl yr angen, a bydd Estyn yn parhau i ddefnyddio eu gweithdrefnau gweithgarwch dilynol yn ôl yr angen.