Tystysgrifau cofrestru digidol wedi'u diweddaru yn cael eu hanfon i holl darparwyr gofal plant a chwarae
Fe fydd y tystysgrifau yn cael eu ebostio allan cyn diwedd mis Ionawr.
Yn ddiweddar, anfonwyd Hysbysiadau o Benderfyniad i holl ddarparwyr gofal plant a chwarae i ‘ychwanegu amod’ ar eu cofrestriad i adlewyrchu’r Unigolyn Cyfrifol ar gyfer y gwasanaeth, yn dilyn eu cytundeb trwy’r Datganiad Hunanasesu’r Gwasanaeth (SASS) 2 flynedd yn ôl.
Bydd unigolion cyfrifol a gofrestrodd trwy AGC Ar-lein ar ôl mis Mawrth 2020 eisoes â'r cyflwr hwn, ond ni wnaeth y rhai a gofrestrwyd cyn i ni newid i AGC Ar-lein.
Mae darparwyr wedi ein hysbysu am newidiadau bychan i fanylion cofrestru ers i ni symud i AGC Ar-lein, fel newidiau cyfenw ar gyfer Personau Cofrestredig / Unigolion Cyfrifol, ac efallai nad yw y tystysgrifau wedi cael eu diweddaru ers hynny. Oherwydd hyn rydym yn anfon allan tystysgrifau sydd wedi cael eu diweddaru i holl ddaparwyr gofal plant a chwarae trwy ebost.
Os yw yr holl fanylion ar y tystysgrif yn gywir nid oes angen gwneud dim byd.
Os oes unrhyw beth yn anghywir, ebostiwch AGC@llyw.cymru.