Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Chwefror 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi ein hadolygiad ar y cyd Cenedlaethol 2021-22 ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) ar ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS)

Oherwydd yr oedi parhaus wrth asesu ceisiadau DoLS, ni allwn bob amser fod yn sicr nad yw hawliau dynol pobl yn cael eu torri drwy gael eu hamddifadu o’u rhyddid yn anghyfreithlon.

Datblygwyd y trefniadau er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu a'u cynnal, a bod y gofal a gânt er eu budd pennaf ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf gyfyngol.

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Canfyddiadau Allweddol 2021-22

  • Mae'r cyfnod a gymerwyd i brosesu ceisiadau yn dal i fod yn wael. Rhaid i gyrff goruchwylio sicrhau y caiff hawliau pobl eu diogelu ac y caiff asesiadau ar gyfer pob cais eu cynnal o fewn y nifer o ddiwrnodau a nodwyd yn unol â Chod Ymarfer DoLS.
  • Ar y cyfan, gwelwyd cynnydd bach yn nifer y ceisiadau DoLS a gafodd awdurdodau lleol yn 2021-22, er bod y niferoedd wedi parhau i fod yn is na chyn pandemig COVID-19.
  • Caiff y rhan fwyaf o bobl eu cefnogi a'u cynrychioli mewn materion sy'n ymwneud â'u hachos amddifadu o ryddid. Mae hyn yn welliant sylweddol o gymharu â pherfformiad y llynedd.
  • Roedd mwyafrif y ceisiadau DoLS yn parhau i fod ar gyfer pobl hŷn, gyda 87% o'r ceisiadau ar gyfer pobl dros 65 oed. Roedd y rhan fwyaf o'r ceisiadau ar gyfer DoLS yn parhau i fod o gartrefi gofal ar gyfer oedolion hŷn a wardiau ysbyty ar gyfer oedolion hŷn.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.

Adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru 2021-22