Diweddariad ar graddau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref
Byddwn yn dechrau ein cynllun peilot graddau mud ym mis Mehefin eleni.
Rydym wedi parhau i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer gweithredu graddau ac wedi ystyried hyn ochr yn ochr â'r pwysau ar ddarparwyr o ganlyniad i'r Ffurflen Flynyddol lawn gyntaf ar gyfer y sector.
Tra bod ein paratoadau mewnol yn mynd rhagddynt, rydym wedi gohirio ‘mynd yn fyw’ tan fis Mehefin. Disgrifir amserlen amlinellol isod a byddwn yn parhau i ddarparu diweddariadau trwy ein digwyddiadau darparwyr.
Ebrill/Mai 2023
- Byddwn yn cwblhau'r diwygiadau i'n proses orfodi, sy'n ofynnol i gefnogi graddau, ac yn rhannu hyn gyda darparwyr.
- Byddwn yn cwblhau hyfforddiant ar gyfer ein staff arolygu ar graddau mud.
- Byddwn yn cynnal proses gaffael i benodi sefydliad i gynnal gwerthusiad annibynnol o'r peilot graddau.
Mehefin 2023 – diwedd Ionawr 2024
- Byddwn yn dechrau darparu graddau mud ym mhob arolygiad o gartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref, fel rhan o gyfnod peilot saith mis. Ni fydd y rhain yn cael eu cyhoeddi.
- Bydd y cyfnod peilot hwn wedyn yn cael ei werthuso, gan ganiatáu i ni asesu ein cysondeb wrth gymhwyso graddau yn ogystal â'r effaith ar ddarparwyr gwasanaeth a'n timau arolygu.
- Byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'r gwerthusiad ac unrhyw newidiadau posibl i'n dull.
Ebrill 2025
- Bydd graddau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref yn dechrau cael eu cyhoeddi mewn adroddiadau arolygu.