Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 12 Ebrill 2023
  • Newyddion

Adolygiad cyflym o drefniadau amddiffyn plant

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i edrych ar y ffordd y mae plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn.

Rydym yn cydweithio â phartneriaid i adolygu'r strwythurau a'r prosesau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod enwau plant yn cael eu rhoi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, a'u tynnu oddi arni, yn briodol.

Bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar brosesau gwneud penderfyniadau amlasiantaethol.

Bydd ein cyd-arolygiaethau, Estyn (Dolen allanol) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol), hefyd yn gwneud gwaith maes ar gyfer yr adolygiad ac yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol, a gaiff ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Cymryd rhan

Rydym yn awyddus iawn i glywed gan blant a phobl ifanc y rhoddwyd eu henw ar y gofrestr amddiffyn plant neu y tynnwyd ei henw oddi arni yn ystod y chwe mis diwethaf.

Rydym wedi gweithio gyda'r sefydliad Mind of My Own (Dolen allanol) i greu'r arolyglon canlynol.

Dylai'r arolwg hwn gael ei gwblhau gan blant a phobl ifanc a hoffem glywed am eich profiadau chi.

Gweler y ddogfen isod am fwy o wybodaeth am ein hadolygiad.

Hoffem hefyd glywed gan rieni a gofalwyr am eich profiadau o drefniadau amddiffyn plant:

Ydych chi'n ymarferydd neu'n weithiwr cymdeithasol sy'n ymwneud â threfniadau amddiffyn plant? Yna, a fyddech cystal â chymryd rhan yn ein harolwg i ymarferwyr:

Dyddiad cau'r arolygon: 31 Mai 2023