Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Ebrill 2023
  • Newyddion

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf

Cynhaliwyd yr adolygiad ym mis Chwefror 2023.

Diben yr adolygiad yw rhoi proses graffu allanol ar waith, rhoi sicrwydd a hyrwyddo gwelliannau mewn perthynas â chynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (cyn-achos).

Pan fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn pryderu am les plentyn, mae'n bosibl y byddant yn cynnal Cyfarfod Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (PLO) neu gyfarfod cyn-achos. Os na wneir newid neu welliannau digonol yn dilyn y cyfarfod hwn, yna efallai y bydd angen i'r awdurdod lleol wneud cais i'r Llys gan ofyn iddo wneud gorchmynion i amddiffyn y plentyn.

Gwelsom fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi buddsoddi'n helaeth yn yr adolygiad hwn, a arweiniodd at fframwaith integredig wedi'i anelu at roi dull gweithredu mwy cydlynus a chyson ar waith. Mae'n cydnabod yr her ddiwylliannol sy'n wynebu'r awdurdod wrth sicrhau y caiff y fframwaith ei ystyried yn llawn wrth ymarfer.

Y camau nesaf

Byddwn yn cyhoeddi adroddiad trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar ein canfyddiadau yn ystod Gwanwyn 2023.

I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.

Cynllunio gofal ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n destun proses cyn-achos yr Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf