Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 9 Mai 2023
  • Newyddion

Mae'n bosibl y bydd angen i ddarparwyr gweithgareddau haf gofrestru gyda ni

Mae'n bosibl y bydd angen i ysgolion coedwig, gweithgareddau awyr agored a mwy gofrestru gyda ni.

Gyda gwyliau’r ysgol ar y gorwel, a ydych chi’n ystyried darparu gofal plant, ysgol goedwig, gweithgareddau awyr agored, gweithgareddau celf a chrefft, y celfyddydau perfformio, gwersi neu hyfforddiant i blant yn eich cartref eich hun neu mewn safle arall?

A oeddech yn gwybod ei fod yn bosibl y bydd angen i chi wneud cais i gofrestru gyda ni?

Mae'n bosibl na fydd angen i chi gofrestru os yw'r un o'r canlynol yn berthnasol:

  • Mae'r gofal a ddarperir i blant 12 oed a throsodd yn unig
  • Ni wneir taliad am y gwasanaeth
  • Nid yw'r plant yn cael eu gadael yng ngofal y darparwr heb fod rhieni yn bresennol
  • Darperir gofal am lai na dwy awr y dydd neu lai na chwe diwrnod o fewn blwyddyn galendr
  • Darperir y gwersi neu hyfforddiant mewn dim mwy na dau bwnc

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gofrestru, gan gynnwys a yw'r gwasanaeth rydych yn bwriadu ei ddarparu wedi'i esemptio, ar ein tudalen darparu gwasanaeth gofal.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at agc@llyw.cymru neu ffoniwch ein tîm cofrestru ar 0300 7900 126.