Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Mai 2023
  • Newyddion

Mae adroddiad gwerthuso gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion wedi’i gyhoeddi

Cynhaliwyd yr arolygiad ym mis Mawrth 2023.

Diben yr arolygiad oedd adolygu gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion.

Yn yr un modd â llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru, nodwyd gennym fod Cyngor Sir Ceredigion yn wynebu cyfnod heriol mewn perthynas â darparu gofal cymdeithasol. Mae llawer o'r pwysau a wynebir gan yr awdurdod lleol yn adlewyrchu materion cenedlaethol gan gynnwys lefelau uchel o alw a phobl ag anghenion mwy cymhleth, gan gynnwys effaith yr argyfwng 'costau byw'.

I lawer o bobl, gwelsom y caiff eu lleisiau eu clywed a chaiff eu canlyniadau personol eu cofnodi. Roedd enghreifftiau lle roedd ymarferwyr yn gweithio mewn ffordd gydweithredol a chyson â phobl i gefnogi'r pethau sy'n bwysig iddynt. Dywedodd y bobl y gwnaethom siarad â nhw eu bod wedi cael eu deall, bod eu llais wedi cael ei glywed a bod trefniadau cyfathrebu effeithiol a rheolaidd ar waith. Dywedodd 82% o'r bobl a ymatebodd i'n harolwg pobl fod yr awdurdod lleol wedi eu trin ag urddas a pharch drwy'r amser neu'r rhan fwyaf o'r amser.

Mae’r adroddiad llawn i’w weld isod.

Adroddiad o'r arolygiad gwerthuso perfformiad: gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Ceredigion