Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 2 Mehefin 2023
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am ein hadroddiadau arolygu

Rydym am sicrhau bod ein hadroddiadau arolygu yn ddefnyddiol ac yn ddarllenadwy.

Rydym yn arolygu gwasanaethau sydd wedi'u cofrestru â ni er mwyn cadarnhau eu bod yn darparu gofal diogel. Rydym hefyd yn cadarnhau a yw hawliau pobl yn cael eu parchu ac a yw ansawdd eu bywyd yn well.

Caiff ein hadroddiadau arolygu eu darllen gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yng Nghymru; yn ogystal â'u ffrindiau neu berthnasau, pobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal a gweithwyr proffesiynol eraill.

Rydym am glywed eich barn a'ch profiadau o ddarllen ein hadroddiadau arolygu. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall p'un a yw ein hadroddiadau yn darparu gwybodaeth glir a gwerthfawr i chi.

Rhannu eich profiadau â ni

Cwblhewch ein harolwg (Dolen allanol) a rhowch eich barn am ein hadroddiadau arolygu. Bydd y wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein proses o gynllunio ac adrodd ar arolygiadau.

Ewch i'n tudalen Ein Harolygiadau i gael rhagor o wybodaeth am ein proses arolygu.