Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 15 Mehefin 2023
  • Newyddion

Adolygiad annibynnol o warchod plant yn cael ei groesawu

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi heddiw ar wefan Llywodraeth Cymru.

Heddiw, rydym wedi croesawu cyhoeddi adolygiad annibynnol o warchod plant (Dolen allanol), a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gynhaliwyd gan Ymchwil Arad.

Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda phob partner i hyrwyddo gwerth gwarchod plant fel proffesiwn ac fel opsiwn i rieni a gofalwyr.

Er mai diogelwch a llesiant plant yw ein blaenoriaeth bob amser, rydym yn ymwybodol mai hybu gwelliannau yn y sector yn fwy cyffredinol yw'r ffordd orau o gyrraedd y nod hwnnw yn yr hirdymor.

Mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad, rydym yn bwriadu sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i sicrhau bod ein prosesau a'n gweithdrefnau cofrestru ac arolygu yn parhau'n gryf, gan wneud gwelliannau hefyd i sicrhau eu bod yn gweithio'n dda ar gyfer y proffesiwn gwarchod plant.