Diweddariad am ein prosiect gwella gofal plant a chwarae
Yn ystod mis Chwefror eleni, gwnaethom ofyn am wirfoddolwyr o'r sector gofal plant a chwarae i gymryd rhan mewn cynllun peilot ar gyfer cyfarfodydd gwella newydd.
Roedd ein cynllun peilot ar waith am bron i dri mis, o fis Ebrill tan ddiwedd mis Mehefin 2023, a gwnaethom gwblhau dros 60 o gyfarfodydd gwella yn ystod y cyfnod hwn.
Gwnaethom ofyn i bob darparwr a gymerodd ran roi adborth ar y cyfarfodydd. Bydd eu hymatebion yn llunio rhan annatod o'r gwerthusiad a gaiff ei gynnal dros yr haf. Byddwn yn ystyried canfyddiadau'r gwerthusiad er mwyn pennu dyfodol cyfarfodydd gwella.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys darparwyr, staff o sefydliadau eraill a'n staff ni ein hunain. Maent wedi ein helpu i ystyried sut i annog gwelliant ar draws y sector cyfan yn ogystal â gwelliannau mewn lleoliadau unigol.
Rhannu'r arferion gorau
Rydym yn bwriadu gwneud mwy i ddathlu ac i rannu arferion rhagorol rydym yn eu gweld wrth arolygu. Byddwn yn defnyddio ein gwefan a sianeli cyfathrebu eraill i hyrwyddo ein canfyddiadau. Rydym yn bwriadu datblygu ein digwyddiadau i ddarparwyr er mwyn cynnal cynadleddau gwella blynyddol. Byddwn yn eu defnyddio i rannu'r gwersi i'w dysgu o'n harolygiadau, i dynnu sylw at y themâu cyffredin ac i ddathlu cyflawniadau. Byddwn yn gwahodd darparwyr i rannu eu syniadau ac enghreifftiau o arferion gorau.