Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 20 Gorffennaf 2023
  • Newyddion

Dywedoch chi, gwnaethom ni – newidiadau i'n harolygon adborth

Rydym yn gwerthfawrogi'r adborth gan bobl sy'n defnyddio ein harolygon ar-lein yn fawr.

Fis diwethaf, cawsom adborth gan ymwelydd iechyd a oedd yn awyddus i lenwi un o'n holiaduron ar ein gwefan, yn dilyn ymweliad â gwasanaeth gofal plant, ond a oedd yn teimlo, fel ymwelydd iechyd, nad oedd holiadur priodol ar ei gyfer.

Aeth ein timau Data a Chyfathrebu ati i ddiweddaru'r arolwg ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymweld er mwyn sicrhau bod yr arolwg yn berthnasol i wasanaethau oedolion a phlant, a gwasanaethau gofal plant a chwarae.

Diweddarwyd geiriad y brif ddewislen hefyd i'w gwneud yn glir bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymweld wedi'u cynnwys.

Rydym yn ystyried ac yn gwrando ar adborth yn barhaus felly os oes gennych unrhyw awgrymiadau o ran sut y gallwn wella ein hopsiynau adborth, e-bostiwch agc.cyfathrebu@llyw.cymru.