Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 18 Awst 2023
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o ganllawiau graddau ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref

Lluniwyd y canllawiau drafft hyn er mwyn paratoi ar gyfer ein proses fesul cam o weithredu graddau ar gyfer gwasanaethau a gaiff eu harolygu o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

O 1 Ebrill 2023, gwnaethom ddechrau cynnal ein cynllun peilot ar gyfer graddau mud ac er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno'r rheoliadau, rydym wedi rhoi proses fesul cam ar waith mewn perthynas â'r graddau.

  • Cam un – system o raddau ‘mud’ heb eu cyhoeddi ar gyfer pob gwasanaeth cartref gofal a phob gwasanaeth cymorth cartref a arolygir rhwng mis Mehefin 2023 a mis Mawrth 2024. Ni chaiff y rhain eu cyhoeddi.
  • Cam dau – cyhoeddi'r graddau ar gyfer pob gwasanaeth cartref gofal a phob gwasanaeth cymorth cartref a arolygir o fis Ebrill 2025.

Darllenwch y canllawiau drafft drwy glicio ar y ddolen ar waelod y dudalen hon.

Noder mai fersiwn ddrafft o'r canllawiau yw'r fersiwn hon ac y cânt eu newid o bosibl yn dilyn gwerthusiad annibynnol, a gynhelir yn ystod cam un o fis Medi 2023 tan fis Rhagfyr 2023. Bydd hwn yn ein galluogi i asesu pa mor gyson ydym wrth gymhwyso graddau yn ogystal ag asesu'r effaith ar ddarparwyr gwasanaethau a'n timau arolygu.