Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 6 Medi 2023
  • Newyddion

Diogelu plant sy'n mynd ar goll o'r cartref neu o ofal

Bu cynnydd cyson yn y nifer o ddigwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt lle mae plant ar goll o'u lleoliad maethu neu eu cartref gofal.

Rydym wedi ysgrifennu at bob darparwyr cartrefi gofal plant a gwasanaethau maethu cofrestredig yr wythnos hon, i'w hatgoffa pa mor bwysig yw sicrhau y caiff y plant eu diogelu'n briodol a bod y trefniadau yn unol â Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant sy'n mynd ar goll o'r cartref neu o ofal (Dolen allanol).

Mae'r canllawiau hyn wedi cael eu datblygu i gael eu defnyddio ar y cyd â Gweithdrefnau Diogelu Cymru Gyfan.

Mae'r canllawiau'n nodi pryd y dylid pennu bod plentyn ar goll (Dolen allanol): “Person ar goll yw: ‘Ystyrir unrhyw un na ellir sefydlu ei leoliad fel rhywun ar goll hyd nes y deuir o hyd iddo ac y gellir cadarnhau ei lesiant neu fel arall.’”

Rydym yn ymwybodol bod llawer o ffactorau sy'n effeithio ar blant yn mynd ar goll o ofal, ond rydym yn gweld cynnydd cyson yn y nifer o ddigwyddiadau y rhoddwyd gwybod amdanynt lle mae plant yn mynd ar goll o'u lleoliad maethu neu eu cartref gofal. Mae rhai o'r digwyddiadau hyn yn peri i'r plant gael eu rhoi mewn risg a phrofi niwed sylweddol mewn rhai sefyllfaoedd.

Yn 2019 cynhaliom adolygiad cenedlaethol o gartrefi gofal i blant yng Nghymru. Yn yr adroddiad gwnaethom nodi: “Mae nifer y plant sy'n mynd ar goll o ofal mewn rhai ardaloedd o Gymru wedi cynyddu, ac mae nifer y  plant sy'n wynebu risg o gamfanteisio rhywiol wedi cynyddu hefyd. Roedd yn destun pryder gweld, o dan rai amgylchiadau lle roedd plant yn dianc o'r cartref, fod y darparwyr, yr awdurdodau lleoli a'r timau diogelu lleol bron iawn yn derbyn hyn.... Ychydig iawn o dystiolaeth a welsom i gefnogi ymateb rhagweithiol, gyda strategaethau amgen yn cael eu hystyried er mwyn diogelu plant.”

Gwnaed argymhelliad i'r canfyddiadau hyn: “Dylai awdurdodau a darparwyr lleoli adolygu polisïau ac arferion mewn perthynas â throthwyon ar gyfer  riportio plant sydd ar goll, gan sicrhau bod y rhain yn gyson â chanllawiau ac nad ydynt yn gosod plant mewn risg ddiangen a mwy o niwed, gan gynnwys troseddol.”

Er bod rhai argymhellion wedi cael eu cyflawni yn dilyn rhoi Protocol Llywodraeth Cymru, Lleihau troseddau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal (Dolen allanol), ar waith, credwn y gellir gwneud llawer mwy i sicrhau bod yna drefniadau mwy cadarn pan fydd plant yn mynd ar goll o ofal.

Rydym wedi gofyn am gymorth y darparwyr wrth ddatblygu prosesau gwaith mwy effeithiol wrth weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleoli ac awdurdodau'r heddlu, i sicrhau y caiff plant eu diogelu'n well pan fyddant yn mynd ar goll o ofal.

Cyfrifoldeb diogelu allweddol pob asiantaeth yw rhannu gwybodaeth yn amserol i gadw'r plant yn ddiogel ac i'w diogelu rhag niwed. Rydym yn pryderu o weld nad oes gan lawer o blant sy'n agored i niwed ac sy'n mynd ar goll o ofal Ffurflen Gwybodaeth Plentyn (Dolen allanol) wedi'i chwblhau yn eu cofnodion. 

Mae Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan yn nodi y dylai'r ffurflen hon gael ei chwblhau gan yr awdurdod lleoli a'i rhoi i'r darparwr gwasanaeth, naill ai'r cartref gofal neu'r gofalwr maeth, a dylai darparwr y lleoliad ddiweddaru'r wybodaeth yn ôl yr angen.

Rydym wedi gofyn i ystyriaeth lawn gael ei rhoi wrth gwblhau'r ffurflen hon pan gaiff lleoliad ei ystyried ar gyfer plentyn, ac ar ôl i'r ffurflen gael ei chwblhau, dylai gael ei hadolygu'n barhaus. Bydd hyn yn sicrhau cydymffurfiaeth â Chanllawiau Ymarfer Cymru Gyfan, ond yn y bôn bydd plant yn cael eu diogelu'n well.

Byddwn yn parhau i fonitro cydymffurfiaeth â Canllawiau Ymarfer Cymru Gyfan: Diogelu plant sy'n mynd ar goll o'r cartref neu o ofal (Dolen allanol) yn ystod arolygiadau.