Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Medi 2023
  • Newyddion

Byddem yn croesawu eich barn am drefniadau amddiffyn plant ym Mhowys

Byddwn yn edrych ar drefniadau amddiffyn plant ym Mhowys ym mis Hydref, ar y cyd ag Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi.

Diben yr adolygiad (y cyfeirir ato fel Adolygiad gan Arolygiaethau ar y Cyd o Drefniadau Amddiffyn Plant (JICPA)) fydd cynnal gwerthusiad o'r ffordd mae gwasanaethau lleol ar draws asiantaethau yn ymateb i amddiffyn plant 11 oed neu'n iau sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Os ydych chi'n blentyn neu'n berson ifanc sy'n cael gwasanaethau gofal a chymorth gan Gyngor Sir Powys, neu sydd wedi eu cael, neu os ydych chi'n perthyn i blentyn neu berson ifanc o'r fath, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolwg perthnasol isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 6 mis Hydref.

Cefndir

Gwnaethom gymryd rhan mewn gwaith JICPA yn Sir Ddinbych ac ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn gynharach eleni; yng Nghastell-nedd Port Talbot yn 2021 ac yng Nghasnewydd yn 2019.

Yn dilyn arolygiadau ar y cyd llwyddiannus blaenorol, bydd rhaglen JICPA 2023/24 yn cynnal adolygiad systemau o drefniadau amddiffyn plant ym mhob un o'r byrddau diogelu rhanbarthol ac ardaloedd yr heddlu yng Nghymru, er mwyn nodi arferion cadarnhaol ac unrhyw feysydd i'w gwella.

Mae diogelu plant yn gyfrifoldeb amlasiantaeth, felly rydym yn gweithio gydag arolygiaethau eraill, sef Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi, i gynnal yr arolygiadau hyn.