Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Medi 2023
  • Newyddion

Heddiw, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) adroddiad sy'n nodi canfyddiadau adolygiad o lif cleifion yng Nghymru drwy'r llwybr strôc

Arweiniwyd yr adolygiad gan AGIC gyda chymorth gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae adroddiad ‘Adolygiad cenedlaethol o lif cleifion: taith drwy'r llwybr strôc’ yn canolbwyntio ar daith unigolyn drwy'r llwybr strôc; o'r adeg y gofynnir am ambiwlans neu'r adeg y mae pobl yn cyrraedd yr adran achosion brys eu hunain, nes y cânt eu rhyddhau o'r ysbyty neu eu trosglwyddo i gael gofal gan wasanaethau eraill.

Wrth wraidd yr adolygiad roedd profiadau pobl o gael gofal a thriniaeth ar gyfer strôc yn ystod pob cam gofal, o ffonio am ambiwlans, cael eu hasesu, cael eu trin fel cleifion mewnol a chael eu rhyddhau o'r ysbyty. 

At hynny, gofynnodd yr adolygiad am farn a phrofiadau staff ym maes gofal cymdeithasol a staff awdurdodau lleol ar yr heriau a wynebir wrth geisio rhyddhau pobl o'r ysbyty yn effeithiol.

Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at fentrau, modelau gofal a dulliau gweithredu amrywiol mewn systemau iechyd a gofal cymdeithasol i fynd i'r afael â'r problemau ac i wella canlyniadau i bobl. 

Canfu'r adolygiad fod amrywiol ffactorau yn effeithio ar oedi cyn rhyddhau pobl sy'n feddygol iach o'r ysbyty, gan gynnwys y canlynol:

  • Adnoddau – Dyrannu gweithwyr cymdeithasol yn amserol 
  • Comisiynu pecynnau gofal i asiantaethau gofal cartref – oherwydd adnoddau cyfyngedig ym mhob rhan o'r sector, sefyllfa sy'n cael ei dwysáu gan adnoddau staffio annigonol
  • Cyfyngiad ar ddigonolrwydd lleoliadau mewn cartrefi gofal 
  • Problemau lefelau system o ran pecynnau trawsffiniol, gan gynnwys llwybrau atgyfeirio a systemau TG gwahanol

Er na all un datrysiad unigol wella'r llif, mae'r adolygiad yn nodi nifer o gyfleoedd i'r system iechyd a gofal cymdeithasol wneud gwelliannau ym mhob cam o'r llwybr a all helpu i wella canlyniadau i bobl.

I weld yr holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn ar wefan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol).